Criw Cymraeg y Clwstwr:

Criw Cymraeg y Clwstwr:

24th November 2017

Diolch i ddisgyblion o Henllys a Nant Celyn am ddod draw i'r ysgol heddiw.

Daeth 14 o ddisgyblion o Nant Celyn a Henllys i'n gweld ni heddiw. Gweithiodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn galed iawn i helpu'r disgyblion gyda'u Cymraeg. Dros y misoedd nesaf, bydd y tair ysgol yn gweithio'n agos gyda'i gilydd a bydd y disgyblion i gyd yn ymweld â phob ysgol.

Da iawn i bawb.


^yn ôl i'r brif restr