Gwyl Gorawl Ysgolion Cynradd 2012:

Gwyl Gorawl Ysgolion Cynradd 2012:

23rd February 2012

Mae’r gyngerdd flynyddol yn Theatr y Congress yn digwydd eleni ar nos Iau, yr 8fed o Fawrth.

Mae’r gyngerdd yn dechrau am 6 o’r gloch felly byddaf yn cwrdd â’r plant tu allan am 5:30. Mae trefnydd y gyngerdd wedi gofyn i’r gynulleidfa aros mewn tra bo’r holl ysgolion yn perfformio gan mai cyngerdd o awr yn unig fydd hi. Byddwn yn edrych ar ôl y disgyblion yn ystod yr amser hwn.

Bydd angen i’r disgyblion wisgo eu gwisg ysgol sy’n cynnwys esgidiau a ‘sanau du, trowsus neu sgert ddu, crys wen a thei yr ysgol. Os nad oes tei gyda eich plentyn yn barod, mae Ms Painter yn gwerthu rhai am £3.

Mae tocynnau i’r gyngerdd hefyd ar gael gyda Ms Painter am £2.

Yr Eisteddfod: Dydd Sadwrn, y 3ydd o Fawrth, 2012:

Rydym wedi derbyn y wybodaeth na fydd angen i bob eitem gystadlu yn yr Eisteddfod Gylch. Yr eitemau fydd yn mynd yn syth ymlaen i’r Sir, ar y funud yw’r côr, y parti deulais a’r ensemble. Byddaf yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau eraill yn agosach at yr amser gan y byddwn yn derbyn y rhaglen wythnos nesaf. Byddwn hefyd â rhyw fath o syniad o’r amseroedd erbyn hynny hefyd ond mae’r Eisteddfod fel arfer yn dechrau am 8:30 gyda’r dawnsio disgo.


^yn ôl i'r brif restr