Digwyddiadau Blwyddyn 6:

Digwyddiadau Blwyddyn 6:

23rd February 2012

Mae llawer o bethau wedi eu trefnu at gyfer disgyblion blwyddyn 6 dros yr wythnosau nesaf.

Dyma rai ohonyn nhw:

Crucial Crew: Dydd Mercher, Mawrth y 7fed:

Mae Heddlu Gwent yn trefnu prynhawn o weithgareddau yn ymwneud gyda diogelwch y ffordd, rheolau tân, ysmygu ayyb yng Nghwmbrân rhwng 12:30 a 2:30. Bydd bws yn cludo’r disgyblion yno ac yn ôl.

Gweithdy darllen yn Llyfrgell Cwmbrân: Dydd Llun, Mawrth y 12fed:

Bydd y disgyblion yn mynd i’r llyfrgell erbyn 1:15 i gymryd rhan mewn gweithdy darllen gydag awdur adnabyddus. Bydd y sesiwn hwn yn rhan o ddathliadau ‘Diwrnod y Llyfr’. Mae bws wedi’i drefnu ar gyfer y disgyblion.

Drama ‘Adenydd i Hedfan’: Dydd Gwener, Mawrth 16eg:

Ar ddydd Gwener, Mawrth yr 16eg, bydd y disgyblion yn mynd i Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, i weld drama ‘Adenydd i Hedfan’. Bydd y disgyblion yn dysgu am gyffuriau trwy ddrama wedi ei pherfformio gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Bydd bws wedi’i drefnu ar gyfer y digwyddiad hwn yn ogystal.

Stwnsh: Mawrth 19eg/20ain:

Bydd Stwnsh mewn yn ffilmio disgyblion blwyddyn 6 ar gyfer rhaglen ar S4C. Mae llythyron wedi eu danfon yn barod am hwn.

Byddwn hefyd yn ymweld ag Ysgol Gyfun Gwynllyw ar yr 2il o Ebrill a bydd Miss Rhian James a Miss Helen Rogers yn dod i siarad gyda disgyblion blwyddyn 6 ddydd Gwener.


^yn ôl i'r brif restr