Gem Rygbi 18.11.2011:

Gem Rygbi 18.11.2011:

20th November 2011

Ddydd Gwener, aeth y tim rygbi draw i Ysgol New Inn i chwarae gem gynta'r flwyddyn.

Dyma adroddiad ar y gem gan rai o'r chwaraewyr, Craig ac Ethan:

Gem rygbi blwyddyn 5 & 6 yn erbyn New Inn

CWMBRAN : 15
Sgorio cais : Ethan Winter, Joel Manning a Cai Turner
NEW INN : 40

Ar y 18fed o Dachwedd, aeth rhai o’r disgyblion o flwyddyn 5 & 6 i chwarae rygbi yn erbyn ysgol New Inn. Ar ddechrau y gem, ciciodd New Inn a sgoriodd New Inn gais gan torri trwy’r llinell o amddiffyn i sgorio cais oherwydd roedd y taclo yn wael.

Trodd Cwmbrân yn ddifrifol a dechreuodd y bechgyn taclo yn bwerus ac yn galed. Pan dechreuodd y gem eto, roedd y rycio a’r taclo yn wych! Yn yr ail hanner, dechreuodd Cwmbrân chwarae ei gorau glas ac oherwydd roedd Adam Shalaby yn rycio’n fendigedig a thaclo’n galed, cafodd anaf ar ôl trio amddiffyn y llinell gais o un o’i blaenwyr mawr.

Sgoriodd Ethan Winter gais arbennig yn y gornel ar ôl defnyddio medr i wneud yr amddiffynwyr baglu dros ei draed. Munudau ar ôl hynny, sgoriodd Cai Turner cais ardderchog wrth gwneud ’pick and drive’ o ryc. Eiliadau cyn diwedd y gem, defnyddiodd Joel ei gryfder i dorri’r llinell gryf o amddiffynwyr i sgorio cais diwedd y gem i orffen y gem yn 40– 15.

Dywedodd ein hyfforddwyr Mr Passmore “Er ein gem gyntaf oedd hwn, roedd y bechgyn wedi chwarae yn arbennig ac wedi dangos sgiliau a thaclo o’r radd flaenaf. Rhaid dweud eu bod wedi chwarae fel tîm gan ddangos parch a chyfeillgarwch tuag at ei cyd chwaraewyr a’u gwrthwynebwyr. Edrychaf ymlaen at y gem nesaf. Da iawn chi fechgyn”.

Y tîm : Joel Manning, (Capten a chiciwr) Ethan Winter, Cai Turner, Craig Allen, Adam Shalaby, Jack Akehurst, Clifford Jones, Aaron Rees, Carreg Smith, Cai Roberts, Jay Watley, Ieuan Walker, Dylan Matthews a Lewis Hughes - Evans.


^yn ôl i'r brif restr