Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

12th November 2011

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Gwefannau'r Wythnos:

Cliciwch ar y gwefannau isod er mwyn eu gweld.

Cyfnod Sylfaen: Yr Wyddor.
CA2: Codi Cwestiwn (Addysg Grefyddol)

Dydd Llun:

Clwb Ffitrwydd yn yr ysgol.
(3:30 - 5)

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth 'Disgybl yr Wythnos'.
(9:10 y bore)

Gweithdy Gwyddoniaeth gyda Gari'r clown:
Bydd disgyblion blynyddoedd 3, 4 a 5 yn dysgu am ddefnyddiau a'u nodweddion heddiw gyda Gari'r clown.

Clybiau ar ôl ysgol:

Clwb pêl rwyd yn yr ysgol.
(3:30 - 4:30)

Clwb pêl droed yn y 'Football Factory.'
(4-5)

Dydd Mercher:

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Iau:

Ymarfer Côr ar ôl ysgol tan 5.
Clwb TGCh tan 4:30.

Dydd Gwener:

Diwrnod gwisg anffurfiol / gwisg ffansi:
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad eu hunain. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o 50c a bydd yr arian yn mynd tuag at ein helusen eleni sef Bobath Cymru.

Gem Rygbi:
Bydd y tim rygbi yn mynd i Ysgol Gynradd New Inn brynhawn dydd Gwener i chwarae gem rygbi cyntaf y flwyddyn.

Pob lwc i bob un.

Dydd Sadwrn:
Cofiwch am ein Noson Bingo i'r teulu sy'n cael ei drefnu gan y Gymdeithas Rieni ac Athrawon.

Clybiau Amser Cinio yr Wythnos:

Dydd Llun:
Clwb TGCh (12:30 - 1)
Clwb Celf (12:00-12:30)

Dydd Mawrth:
Clwb LEGO (12:30 - 1)

Dydd Iau:
Clwb Recorders (12:30 - 1)
Clwb Garddio (12:00-12:30)

Dydd Gwener:
Clwb darllen (12:30 - 1)

Diolch fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr