Ymweliad gan Fardd Plant Cymru:

Ymweliad gan Fardd Plant Cymru:

4th October 2011

Daeth Eurig i'r dosbarth bore 'ma i gynnal gweithdy barddoni gyda disgyblion blwyddyn 6.

Ysgrifennon nhw gerdd am hanes Owain Glyndwr a dyma'r gerdd i chi ....

Dacw Owain, milwr hyderus,
Tarian a chleddyf, arwr pwerus,
Tad a gŵr, capten mawr dewr,
Ar faes y gad yn ymladd fel llew,
Owain! Owain! Ein tywysog cyfoethog,
Cymru am byth! Dan helmed aur, sgleiniog.

(Gan flwyddyn 6 a Bardd Plant Cymru,
Eurig Salisbury. Hydref 2011)

Cawsom lawer o hwyl gydag Eurig a chyda un o gyflwynwyr STWNSH, Anni Llyn.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr