Wythnos Hybu Iechyd a Chadw'n Heini:

Wythnos Hybu Iechyd a Chadw'n Heini:

2nd October 2011

Yr wythnos hon (Hydref 3-7), byddwn yn cynnal Wythnos Hybu Iechyd a Chadw'n Heini yn yr ysgol.

Mae iechyd a ffitrwydd yn bethau pwysig iawn ac, fel ysgol, rydym yn awyddus iawn i hyrwyddo'r ddau.

Yr wythnos hon, gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu gwsig ymarfer corff gan fod amrywiaeth o weithgareddau ffitrwydd a bwyta'n iach wedi eu trefnu'n dyddiol.

Dyma brif amcanion yr wythnos:

Ysgogi’r plant i feddwl am sut mae modd gwella eu hiechyd wrth gynhyddu faint o weithgarwch corfforol maent yn ei wneud.

Ysgogi’r plant i fwyta’n iach.

Cyfuno gofynion pynciol y cwricwlwm tra’n cynnal gweithgareddau sy’n hwyl ag yn wahanol i’w gwersi arferol.

Cyd-weithio gyda asiantaethau allanol yn ystod yr wythnos.

Cynnig cyfle i’r plant arbrofi gyda gwahanol gemau a gweithgareddau newydd.

Dyma rai o'r pethau sydd wedi'u trefnu ar gyfer yr wythnos:

Sesiynnau badminton.
Sesiynnau aerobics.
Gweithdai 'Little Stars'.
Gweithdai 'Dance Stars'.
Wal ddringo.
Sesiynnau hoci.
Gwersi Addysg Gorfforol.
Sesiynnau rygbi gyda Tom Wood.

Bydd pob dosbarth yn cymryd rhan mewn gweithgaredd noddedig yn ogystal.

Edrychwn ymlaen yn fawr at yr wytnnos.

Am fwy o fanylion am ddatblygiad chwaraeon yn yr ardal, edrychwch ar y linc isod.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr