Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

30th September 2011

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Wythnos Hybu Iechyd a Bwyta'n Iach:

Cynhelir wythnos bwyta'n iach yn yr ysgol yr wythnos hon. Ceir amrywiaeth helaeth o weithgareddau yn yr ysgol yn ystod yr wythnos. Mae pob dosbarth yn cymryd rhan mewn gweithgaredd ar gyfer codi arian. Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu gwisg ymarfer corff drwy'r wythnos.

Gwefannau'r Wythnos:

Cliciwch ar y gwefannau isod er mwyn eu gweld.

Cyfnod Sylfaen: Gemau Bwyta'n Iach.
CA2: Bwyta'n Iach.

Dydd Llun:
Clwb Ffitrwydd yn yr ysgol.
(3:30 - 5)

Dydd Mawrth:
Dim gwasanaeth 'Disgybl yr Wythnos'.

Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury, yn ymweld â disgyblion blwyddyn 6.

Clwb pêl rwyd yn yr ysgol.
(3:30 - 4:30)

Clwb pêl droed yn y 'Football Factory.'
(4-5)

Cyfarfod CRhA am 6 o'r gloch.

Dydd Mercher:

Bydd Undeb Athrawon UCAC ar streic heddiw felly bydd hwn yn cael effaith ar rai o'r dosbarthiadau.
(Gweler y llythyr blaenorol)

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 a 4 tan 4:30.

Dydd Iau:
Ymarfer Côr ar ôl ysgol tan 5.

Clybiau Amser Cinio yr Wythnos:

Dydd Llun:
Clwb TGCh (12:30 - 1)

Dydd Mawrth:
Clwb LEGO (12:30 - 1)

Dydd Iau:
Clwb Recorders (12:30 - 1)

Dydd Gwener;
Clwb darllen (12:30 - 1)

Diolch.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr