Gwerthoedd y Galon:

Gwerthoedd y Galon:

23rd September 2011

Yn yr ysgol ddydd Mercher, dechreuodd ein hymgyrch ysgol newydd, 'Gwerthoedd y Galon'.

Yn y gwasanaeth, cyflwynodd Miss Griffiths y gwerthoedd gwahanol i ni. Bob mis, byddwn yn canolbwynio ar werth gwahanol a'n gwerth cyntaf ni yw 'Parch'.

Bydd y disgyblion yn ceisio ennill pwyntiau i'w llysoedd trwy ddangos parch i'w cyfoedion, athrawon, ffrindiau ac aelodau o'u teuluoedd mewn gwahanol ffyrdd.

Pob lwc i bob un!


^yn ôl i'r brif restr