Digwyddiadau Blwyddyn 6:

Digwyddiadau Blwyddyn 6:

4th July 2012

Dyma rai o ddigwyddiadau diwedd tymor blwyddyn 6.

Taith Blynyddoedd 5 a 6: (11.7.2012)
Byddwn yn mynd ar ein taith diwedd blwyddyn i Gaerdydd ar yr 11eg o Orffennaf. Cost y daith yw £10. Bydd y disgyblion yn gwisgo’r wisg ysgol ar y diwrnod hwn. Bydd angen pecyn cinio arnynt ar y diwrnod.

Mabolgampau Gwynllyw: (16.7.2012)
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Stadiwm Cwmbrân ar ddydd Llun olaf y tymor o 10 tan 2 i gymryd rhan ym mabolgampau Gwynllyw. Bydd angen dillad ymarfer corff arnynt ar y diwrnod hwn a phecyn cinio.

Taith i fowlio: (17.7.2012)
Ar nos Fawrth, yr 17eg o Orffennaf, mae C.Rh.A yr ysgol yn talu i ddisgyblion blwyddyn 6 i fynd i fowlio yn Bowlplex, Cwmbrân. Byddant yn cael un gem o fowlio yno a bwyd. Byddwn yn cwrdd â’r disgyblion yn Bowlplex am 4:30 a byddwn wedi gorffen am 6 o’r gloch. Gall y disgyblion wisgo dillad eu hunain.

Gwasanaeth Gadael: (18.7.2012)
Bydd y gwasanaeth olaf yn digwydd ar y dydd Mercher olaf am 9:30.

Hoffwn ddweud diolch yn fawr i bob un ohonoch chi am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Dwi wedi mwynhau dysgu blwyddyn 6 yn fawr iawn eleni a dymunaf ‘pob lwc’ i bob un ohonynt ym mlwyddyn 7.

Diolch, C.Passmore.


^yn ôl i'r brif restr