Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

8th May 2012

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Wythnos Masnach Deg:

Yn ystod yr wythnos, byddwn yn dathlu masnach deg yn yr ysgol. Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn ymwneud gyda masnach deg.

Dydd Llun:
Gwyl y Banc.

Dydd Mawrth:
Dim gwasanaeth 'Disgybl yr Wythnos'.

Cystadleuaeth bel-rwyd yn y Stadiwm. Bydd angen codi'r disgyblion o'r Stadiwm am 4:30.

Clybiau ar ôl ysgol:

Clwb hoci yn yr ysgol.
(3:30 - 4:30)

Clwb pêl droed yn y 'Football Factory.'
(4-5)

Dydd Mercher:

Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Iau:

Ymarfer côr tan 5.
Clwb TGCh tan 4:30.

Lluniau ysgol - bydd y disgyblion yn cael lluniau wedi eu tynnu gyda'r dosbarth.

Dydd Gwener:

Gwasanaeth dosbarth Mr Rock.
(9:30 yn y neuadd)

Clybiau Amser Cinio yr Wythnos:

Dydd Llun:
Clwb TGCh (12:30 - 1)
Clwb Celf (12:00-12:30)

Dydd Mawrth:
Clwb LEGO (12:30 - 1)

Dydd Iau:
Clwb Recorders (12:30 - 1)
Clwb Garddio (12:00-12:30)

Dydd Gwener;
Clwb darllen (12:30 - 1)

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr