Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

27th April 2012

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Dydd Llun:

Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn mynd i Langrannog heddiw.

Byddwn yn gadael yr ysgol am 9 o'r gloch yn brydlon. Bydd angen rhoi unrhyw foddion i Miss Passmore ar y bore dydd Llun.

Dydd Mawrth:
Dim gwasanaeth 'Disgybl yr Wythnos'.

Clybiau ar ôl ysgol:

Clwb hoci yn yr ysgol.
(3:30 - 4:30)

Clwb pêl droed yn y 'Football Factory.'
(4-5)

Dydd Mercher:

Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

Dydd Iau:

Ymarfer cor tan 5.
Dim clwb TGCh.

Dydd Gwener:
Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol o Langrannog heddiw. Rydym yn bwriadu bod yn ol erbyn 2:30 a gallwch godi eich plant ar yr amser hwn os ydych yn dymuno.

Clybiau Amser Cinio yr Wythnos:

Dydd Llun:
Clwb Celf (12:00-12:30)

Dydd Mawrth:
Clwb LEGO (12:30 - 1)

Dydd Iau:
Clwb Garddio (12:00-12:30)

Dydd Gwener;
Clwb darllen (12:30 - 1)

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr