Digwyddiadau'r Tymor:

Digwyddiadau'r Tymor:

29th March 2012

Dyma rai o'r gweithgareddau sydd wedi bod yn digwydd yn yr ysgol yn ystod y tymor:

Gemau Chwaraeon:

Mae disgyblion yr adran iau wedi bod yn brysur yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gemau chwaraeon y tymor hwn. Mae’r timoedd wedi cymryd rhan mewn sawl gem rygbi, pêl-droed a chystadlaethau pêl-rwyd yn Stadiwm Cwmbrân. Yn ogystal â hyn, mae plant blynyddoedd 1 a 2 wedi mwynhau cymryd rhan yn sesiynau rygbi ‘Little Stars’ sydd wedi dechrau’n yr ysgol.

Un o uchafbwyntiau’r gemau y tymor hwn yw taith rhai aelodau o’r tîm pêl-droed i Gaerdydd ar ddiwrnod gem goffa Gary Speed. Dyma adroddiad gan Jack, disgybl ym mlwyddyn 6:

Ar ddydd Mercher, y 29ain o Chwefror, aeth rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 i gymryd rhan mewn diwrnod coffa Gary Speed yn Ysgol Pwll Coch, Caerdydd. Yn gyntaf, aeth y tîm i Ysgol Pwll Coch i gwrdd â disgyblion o’r ysgolion eraill. Cymysgwyd y disgyblion mewn i dimoedd gwahanol ac aethon nhw i gymryd rhan mewn cystadleuaeth yng nghanolfan ‘Gol’.
Ar ôl ychydig o gemau, aeth y disgyblion yn ôl i Ysgol Pwll Coch ar gyfer seremoni wobrwyo. Ar ôl te yn McDonalds, aeth y disgyblion i’r gem goffa yn Stadiwm Caerdydd i wylio Cymru’n chwarae’n erbyn Costa Rica.

Er bod y canlyniad yn siomedig, cafodd y disgyblion ddiwrnod gwych. Diolch yn fawr i Mr Passmore am drefnu’r diwrnod.

Diwrnod y Llyfr:

Cafwyd diwrnod y llyfr llwyddiannus ar Fawrth yr 8fed gyda holl ddisgyblion yr ysgol wedi gwisgo lan fel eu hoff gymeriad o lyfr. Gwelwyd amrywiaeth o gymeriadau gwahanol yn yr ysgol ac ysgrifennwyd stori fel ysgol gyfan. Aeth rhai o ddisgyblion yr adran iau i lyfrgell Cwmbrân i gymryd rhan mewn gweithdy darllen. Cafwyd amrywiaeth o weithgareddau yn ymwneud gyda darllen yn yr ysgol ar y diwrnod hwnnw.

Dydd Gŵyl Dewi:

Cafwyd diwrnod llwyddiannus yn yr ysgol ar Fawrth y 1af gyda dathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Daeth y disgyblion i’r ysgol yn eu gwisgoedd Cymreig a chafwyd dathliadau di-ri gyda gwasanaeth yn y neuadd a chyda cyngerdd gan y delynores, Glenda Clwyd.

Eisteddfod Gelf yr Urdd:

Eleni, gweithiodd holl ddisgyblion yr ysgol yn galed iawn ar y cystadlaethau celf gwahanol, yn ogystal â chymorth mawr gan aelodau staff yr ysgol a rhai o’r rheini. Cymerwyd rhan mewn dros 30 o gystadlaethau celf yr Eisteddfod a chafwyd noson lwyddiannus iawn yng Nghoed Duon ar ddechrau’r mis. Roedd deuddeg o’r eitemau celf yn fuddugol a bydd yr eitemau hyn yn mynd ymlaen i gynrychioli’r Sir yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Diolch i bob un am eu cymorth.

Eisteddfod Sir yr Urdd:

Llongyfarchiadau mawr i bob un gymerodd ran yn yr Eisteddfod Sir ar y 24ain o Fawrth. Cafwyd diwrnod arbennig yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni gyda llawer iawn o gystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod. Llongyfarchiadau mawr i bob un a diolch yn fawr i'r disgyblion a'r athrawon am eu holl waith caled. Yn goron ar y diwrnod oedd y ffaith i ni gael ein gwobrwyo gyda’r darian am y nifer fwyaf o bwyntiau fel ysgol.

Dyma'r cystadlaethau fydd yn mynd ymlaen i'r rownd nesaf:

Parti deulais.
Ymgom.
Parti cerddant.
Unigolion cerddant:
Blwyddyn 1 a 2 – Chloe Taylor.
Blwyddyn 3 a 4 – Daniel Lee.
Blwyddyn 5 a 6 – Cerys Lee.
Unawd canu blwyddyn 5 a 6 – Cerys Lee.
Unawd alaw werin – Caris Morgan.
Parti dawnsio disgo.
Ensemble lleisiol.

Pob lwc i bob un ohonyn nhw a diolch yn fawr i chi, rieni, am eich cefnogaeth yn ystod yr holl ymarferion.

Stwnsh ar y ffordd / Jedward’s Big Adventure:
Mae llawer o ddisgyblion blwyddyn 6 wedi cael blas ar fywyd ar y sgrin y tymor hwn! Ymddangosodd chwech disgybl a’u rhieni ar raglen ‘Jedward’s Big Adventure’ ym Mlaenafon ym mis Chwefror ac yn ddiweddar, mae disgyblion blwyddyn 6, ynghyd â Miss Passmore a Miss Griffiths, wedi cael eu ffilmio ar gyfer rhaglen Stwnsh ar S4C. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu yn nhymor yr haf.

Teithiau i Sain Ffagan:

Dros y tymor diwethaf, mae plant y dosbarthiadau derbyn ynghyd â phlant o flynyddoedd 1 a 2 wedi bod ar deithiau i Sain Ffagan i gyfoethogi gwaith ar eu themâu yn ystod y tymor. Cafwyd cyfle i edrych ar dai gwahanol, teganau gwahanol a siopau o gyfnodau gwahanol.

Diwrnod E-ddiogelwch:
Ar y 7fed o Chwefror, dathlwyd diwrnod e-ddiogelwch yn yr ysgol. Mae e-ddiogelwch bellach yn rhan bwysig iawn o’r cwricwlwm ac mae’n bwysig fod pob disgybl yn ymwybodol o’r peryglon sydd ynghlwm â’r we. Ar y diwrnod, aeth disgyblion blwyddyn 6 i bob dosbarth yn yr ysgol i roi gwersi iddynt ar e-ddiogelwch a chafwyd cystadleuaeth creu poster ar draws yr ysgol.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth yn ystod y tymor hwn. Edrychwn ymlaen at dymor yr haf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân. Bydd y disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ar ddydd Mawrth, y 24ain o Ebrill.

Diolch / Thank you.


^yn ôl i'r brif restr