Ein Gwisg Ysgol

Mae gosod safonau yn un o’n blaenoriaethau fel ysgol ac rwy’n siwr y cytunwch bod ymddangosiad y disgyblion yn arwain at falchder yn yr ysgol a chyda disgyblaeth dda yn cydredeg â chynnal safonau academaidd.

Coch a llwyd yw lliwiau’r ysgol a gallwch archebu’r wisg ar gyfnodau penodol drwy’r ysgol.

Dylai esgidiau fod yn ddu – nid yw esgidiau ymarfer yn rhan o’r wisg ysgol.

Sanau gwyn neu ‘tights du/coch i’r merched, sanau llwyd i’r bechgyn.

Nid yw trowsus chwaraeon yn rhan o’r wisg ysgol.

Fe ddylai unrhyw addurn gwallt fod yn goch neu’n wyn.

Ni chaniateir gemau ag eithrio oriawr a chlustlysau bach.

Does neb i wisgo het / cap neu fandana y tu mewn i’r adeilad heb ganiatad y Pennaeth.

Gallwch siopa ar gyfer ein gwisg ysgol yn siop Pretty Miss yng Ngwhmbrân.